John 19:38 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yn ol hyn, Ioseph o Arimathaia (yr hwn oedd ddiscipul yr Iesu, ’n amyn yn ddirgel rac ofn yr Iuddaeon) a archawdd ar Pilatus gahel tynny i lawr gorph yr Iesu. Ac Pilatus a ganiataodd yddaw. Yno y deuth ef ac y cymerth gorph yr Iesu.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac ar ol y pethau hyn, Ioseph o Arimathea, ac yntau yn ddisgybl i’r Iesu, ond yn guddiedig rhag ofn yr Iwddewon, a ofynodd i Pilat am gael dwyn ymaith gorph yr Iesu; a chaniattaodd Pilat. Daeth efe, gan hyny, a dug ymaith Ei gorph Ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond ar ôl hyn, gofynnodd Ioseff o Arimathea (ag yntau’n ddisgybl i’r Iesu, ond yn ddirgel rhag ofn yr Iddewon) gan Bilat a gâi gymryd ymaith gorff yr Iesu. A chaniataodd Pilat. Felly daeth a chymerth ymaith ei gorff ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ar ôl hyn, Joseff o Arimathea (yr hwn oedd ddisgybl i'r Iesu, eithr yn guddiedig, rhag ofn yr Iddewon) a ddeisyfodd ar Peilat, gael tynnu i lawr gorff yr Iesu: a Pheilat a ganiataodd iddo. Yna y daeth efe ac a ddug ymaith gorff yr Iesu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedi hynny dyma Joseff o Arimathea yn mynd at Peilat i ofyn am ganiatâd i gymryd corff Iesu. (Roedd Joseff yn un o ddilynwyr Iesu, ond yn cadw'n ddistaw am y peth am fod ganddo ofn yr arweinwyr Iddewig.) Cafodd ganiatâd Peilat, a daeth a chymryd y corff.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ar l hyn, gofynnodd Joseff o Arimathea ganiatd gan Pilat i gymryd corff Iesu i lawr. Yr oedd Joseff yn ddisgybl i Iesu, ond yn ddisgybl cudd, gan fod ofn yr Iddewon arno. Rhoddodd Pilat ganiatd, ac felly aeth Joseff i gymryd y corff i lawr.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac ar ol y pethau hyn, Joseph o Arimathea, yr hwn oedd Ddysgybl yr Iesu, eithr yn guddiedig o herwydd ofn yr Iuddewon, a ofynodd i Pilat fel y cymmerai ymaith gorff yr Iesu: a Philat a ganiatâodd. Efe a ddaeth gan hyny, ac a gymmerodd ef gorff ef ymaith.