John 19:39 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac a ðeuth Nicodemus hefyt, (yr hwn yn gyntaf a ddeuthei at yr Iesu o hyd nos) ac a dduc gymysc or myrrh ac Aloes, yn‐cylch cant poys.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A daeth Nicodemus hefyd, yr hwn a ddaethai Atto liw nos yn gyntaf, gan ddwyn cymmysg o fyrr ac aloes, ynghylch can pwys.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A daeth Nicodemus hefyd (a ddaethai ato y tro cyntaf yn y nos) a chanddo gymysgedd o fyrr ac aloes, tua chan pwys.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A daeth Nicodemus hefyd, (yr hwn ar y cyntaf a ddaethai at yr Iesu o hyd nos,) ac a ddug fyrr ac aloes yng nghymysg, tua chan pwys.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Nicodemus gydag e hefyd, sef y dyn oedd wedi mynd i weld Iesu ganol nos. Daeth Nicodemus a tua 34 cilogram o fyrr ac aloes,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Aeth Nicodemus hefyd, y dyn oedd wedi dod at Iesu y tro cyntaf liw nos, a daeth ef thua chan mesur o fyrr ac aloes yn gymysg.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A daeth Nicodemus hefyd, yr hwn a ddaethai ar y cyntaf ato yn y nos, gan ddwyn rhol o fyrr ac aloes tua chàn pwys.