John 19:4 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno Pilatus aeth allan trachefyn, ac a ddyvot wrthwynt, Nycha, ydd wyf yn ei ddwyn ef allan ychwi, val y gwypoch, nad wyf yn cahel vn bei arnaw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A myned allan trachefn a wnaeth Pilat, a dywedodd wrthynt, Wele, Ei ddwyn Ef allan attoch yr wyf, fel y gwypoch nad wyf yn cael Ynddo ddim bai.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac aeth Pilat allan wedyn, ac medd ef wrthynt: “Dyma fi’n dyfod ag ef allan i chwi, er mwyn i chwi wybod nad wyf i yn cael dim achos yn ei erbyn.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Peilat gan hynny a aeth allan drachefn, ac a ddywedodd wrthynt, Wele yr wyf fi yn ei ddwyn ef allan i chwi, fel y gwypoch nad wyf fi yn cael ynddo ef un bai.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna aeth Peilat allan eto a dweud wrth y dyrfa, “Dw i'n dod ag e allan eto, i chi wybod fy mod i ddim yn ei gael e'n euog o unrhyw drosedd.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth Pilat allan eto, ac meddai wrthynt, "Edrychwch, rwy'n dod ag ef allan atoch, er mwyn ichwi wybod nad wyf yn cael unrhyw achos yn ei erbyn."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A Philat aeth y tu allan drachefn, ac a ddywed wrthynt, Wele, yr wyf fi yn ei ddwyn ef y tu allan i chwi, fel y gwypoch nad wyf fi yn cael sail i gyhuddiad ynddo ef.