John 19:41 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yn y van lle crogesit yr Iesu, ydd oedd gardd, ac yn yr ’ardd monwent newydd, yn yr hon ny ddodesit dyn erioet.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yr oedd yn y fan lle y croes-hoeliwyd Ef ardd; ac yn yr ardd fedd newydd, yn yr hwn ni ddodasid neb etto.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac yr oedd gardd yn y lle y croeshoeliwyd ef, ac yn yr ardd fedd newydd na ddodasid neb ynddo hyd hynny.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn y fangre lle y croeshoeliasid ef, yr oedd gardd; a bedd newydd yn yr ardd, yn yr hwn ni ddodasid dyn erioed.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd gardd wrth ymyl y man lle cafodd Iesu ei groeshoelio, ac roedd bedd newydd yn yr ardd — doedd neb erioed wedi ei gladdu ynddo o'r blaen.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn y fan lle croeshoeliwyd ef yr oedd gardd, ac yn yr ardd yr oedd bedd newydd nad oedd neb erioed wedi ei roi i orwedd ynddo.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yn awr yn y man lle y croeshoeliasid ef yr oedd gardd; ac yn yr ardd yr oedd bedd newydd, yn yr hwn ni ddodasid neb erioed.