John 19:42 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yn y van hono y dodesont vvy ’r Iesu, o achos dydd Darpar yr Iuddaeon, can ys bot y vonwent yn agos.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yno, gan hyny, o achos Parottoad yr Iwddewon, gan mai agos oedd y bedd, y rhoddasant yr Iesu.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yno, felly, o achos noswyl yr Iddewon, gan fod y bedd yn agos, y dodasant yr Iesu.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yno, rhag nesed oedd darpar‐ŵyl yr Iddewon, am fod y bedd hwnnw yn agos, y rhoddasant yr Iesu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Am ei bod hi'n bnawn Gwener (y diwrnod cyn y dydd Saboth Iddewig), ac am fod y bedd mor agos, dyma nhw'n rhoi Iesu i orwedd yno.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly, gan ei bod yn ddydd Paratoad i'r Iddewon, a chan fod y bedd hwn yn ymyl, rhoesant Iesu i orwedd ynddo.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yno gan hyny, o herwydd Parotöad yr Iuddewon, canys yr oedd y bedd yn agos, y dodasant yr Iesu.