John 19:5 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y deuth yr Iesu allā yn arwain coron o drain, a gwisc purpur. Ac Pilatus a ddyvot wrthwynt, Nycha ’r dyn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Aeth yr Iesu, gan hyny, allan, yn gwisgo y goron ddrain a’r gochl burpur. A dywedodd Pilat wrthynt, Wele y dyn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly daeth yr Iesu allan yn gwisgo’r goron ddrain a’r wisg borffor. Ac medd ef wrthynt: “Dyma fo.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y daeth yr Iesu allan, yn arwain y goron ddrain, a'r wisg borffor. A Pheilat a ddywedodd wrthynt, Wele'r dyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Daeth Iesu allan yn gwisgo'r goron ddrain a'r clogyn borffor, ac meddai Peilat wrthyn nhw, “Edrychwch, dyma'r dyn!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth Iesu allan, felly, yn gwisgo'r goron ddrain a'r fantell borffor. A dywedodd Pilat wrthynt, "Dyma'r dyn."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr Iesu gan hyny a ddaeth y tu allan, yn gwisgo y goron ddrain a'r wisg borphor; a dywed Pilat wrthynt, Wele y Dyn!