John 19:6 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno yr Archoffeiriat ar twysogiō, pan welsāt ef, a lefāt cā ðywedyt, Croc, croc ef. Pilatus a y ðyvot wrthwynt, Cymerw‐chwi ef a’ chrogwch: can nad yw vi yn cael bai arnaw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gan hyny, pan welodd yr archoffeiriaid a’r gweinidogion Ef, bloeddiasant, gan ddywedyd, Croes-hoelia; croes-hoelia Ef. Dywedyd wrthynt a wnaeth Pilat, Cymmerwch chwi Ef, a chroes-hoeliwch; canys nid wyf fi yn cael Ynddo fai.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly, pan welodd y prif offeiriaid a’r swyddogion ef, gwaeddasant gan ddywedyd: “Croeshoelia, croeshoelia.” Medd Pilat wrthynt: “Cymerwch ef eich hunain, a chroeshoeliwch, oherwydd nid wyf i yn cael achos yn ei erbyn.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna yr archoffeiriaid a'r swyddogion, pan welsant ef, a lefasant, gan ddywedyd, Croeshoelia, croeshoelia ef. Peilat a ddywedodd wrthynt, Cymerwch chwi ef, a chroeshoeliwch: canys nid wyf fi yn cael dim bai ynddo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Y foment y gwelodd y prif offeiriaid a'u swyddogion e, dyma nhw'n dechrau gweiddi, “Croeshoelia fe! Croeshoelia fe!” Ond meddai Peilat, “Cymerwch chi e a'i groeshoelio eich hunain! Lle dw i'n y cwestiwn, mae e'n ddieuog.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan welodd y prif offeiriaid a'r swyddogion ef, gwaeddasant, "Croeshoelia, croeshoelia." "Cymerwch ef eich hunain a chroeshoeliwch," meddai Pilat wrthynt, "oherwydd nid wyf fi'n cael achos yn ei erbyn."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Pan gan hyny y gwelodd yr Arch‐offeiriaid a'r Is‐swyddogion ef, hwy a lefasant allan, gan ddywedyd, Croeshoelia, Croeshoelia. Dywed Pilat wrthynt, Cymmerwch chwi ef, a chroeshoeliwch; canys nid wyf fi yn cael sail cyhuddiad ynddo ef.