John 19:7 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr Iuddaeon a atepesont yddaw, y mae i ni Ddeddyf ac erwydd ein Dedd y f ni, ef ddyly varw, can yddaw ei wneythyd ehun yn Vap Duw,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Atteb iddo a wnaeth yr Iwddewon, Nyni sydd a Chyfraith genym; ac yn ol y Gyfraith dylai farw, am mai Mab Duw y gwnaeth Efe Ef Ei hun.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Atebodd yr Iddewon iddo: “Y mae gennym ni gyfraith, ac yn ôl y gyfraith, dylai farw, am iddo ei wneuthur ei hunan yn fab Duw.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr Iddewon a atebasant iddo, Y mae gennym ni gyfraith, ac wrth ein cyfraith ni efe a ddylai farw, am iddo ei wneuthur ei hun yn Fab Duw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Mae gynnon ni Gyfraith,” meddai'r arweinwyr Iddewig, “ac yn ôl y Gyfraith honno mae'n rhaid iddo farw, am ei fod wedi galw ei hun yn Fab Duw.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd yr Iddewon ef, "Y mae gennym ni Gyfraith, ac yn l y Gyfraith honno fe ddylai farw, oherwydd fe'i gwnaeth ei hun yn Fab Duw."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr Iuddewon a atebasant iddo, Y mae genym ni Gyfraith, ac yn ol y Gyfraith, efe a ddylai farw, am iddo wneuthur ei hun yn Fab Duw.