John 2:10 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac a ddyvot wrthaw, Pop dyn a ’osyt win da yn gyntaf, a gwedy yddyn yvet yn dda, yno vn a vo gwaeth: tithae a gedweist y gwin da yd yr awrhon.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a dywedodd wrtho, Pob dyn a esyd yn gyntaf y gwin da; a phan feddwont, yr hwn sydd waelach; tydi a gedwaist y gwin da hyd yr awr hon.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac medd ef wrtho: “Bydd pawb yn rhoddi’r gwin da i ddechreu, yna pan fônt feddw, y gwin gwaelach. Tithau, cedwaist y gwin da hyd yn awr.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac a ddywedodd wrtho, Pob dyn a esyd y gwin da yn gyntaf; ac wedi iddynt yfed yn dda, yna un a fo gwaeth: tithau a gedwaist y gwin da hyd yr awr hon.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
ac meddai wrtho, “Mae pobl fel arfer yn dod â'r gwin gorau allan gyntaf a'r gwin rhad yn nes ymlaen ar ôl i'r gwesteion gael gormod i'w yfed. Pam wyt ti wedi cadw'r gorau i'r diwedd?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac meddai wrtho, "Bydd pawb yn rhoi'r gwin da yn gyntaf, ac yna, pan fydd pobl wedi meddwi, y gwin salach; ond yr wyt ti wedi cadw'r gwin da hyd yn awr."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Pob dyn a esyd y gwin da yn gyntaf; a phan wedi yfed yn drwm, yna yr hyn sydd waeth: ti ydwyt wedi cadw y gwin da hyd yr awr hon.