John 2:11 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Hyn o ddechrae arwyddion a wnaeth yr Iesu yn Cana tref yn Galilaia, ac a ddangoses ei ’ogoniant, a’ ei ddyscipulon a credesōt ynthaw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Hyn o ddechreu Ei arwyddion a wnaeth yr Iesu yn Cana Galilea, ac amlygodd Ei ogoniant; a chredu Ynddo a wnaeth Ei ddisgyblion.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Hyn a wnaeth yr Iesu yng Nghana Galilea yn ddechreu’r arwyddion, ac amlygodd ei ogoniant, a chredodd ei ddisgyblion ynddo.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hyn o ddechrau gwyrthiau a wnaeth yr Iesu yng Nghana Galilea, ac a eglurodd ei ogoniant; a'i ddisgyblion a gredasant ynddo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Y wyrth hon yn Cana Galilea oedd y gyntaf wnaeth Iesu fel arwydd o pwy oedd. Roedd yn dangos ei ysblander, a dyma'i ddisgyblion yn credu ynddo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwnaeth Iesu hyn, y cyntaf o'i arwyddion, yng Nghana Galilea; amlygodd felly ei ogoniant, a chredodd ei ddisgyblion ynddo.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Hyn o ddechreu yr arwyddion a wnaeth Iesu yn Cana yn Galilea, ac a amlygodd ei ogoniant, a'i Ddysgyblion a gredasant arno ef.