John 2:22 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Am hyny cy gynted y cyuodes ef o veirw, y cofient ey ddiscipulon ddywedyt o hanaw hyn wrthynt: a’ hwy a credessont yr Scri p t h ur, a’r gair a ddywedesei yr Iesu.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
pan gyfododd o feirw, cofiodd Ei ddigyblion mai hyn a ddywedasai; a chredasant yr Ysgrythyr a’r gair a ddywedasai yr Iesu.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly pan atgyfododd o feirw, cofiodd ei ddisgyblion iddo ddywedyd hyn, a chredasant yr Ysgrythur a’r gair a ddywedodd yr Iesu.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny pan gyfododd efe o feirw, ei ddisgyblion ef a gofiasant iddo ddywedyd hyn wrthynt hwy: a hwy a gredasant yr ysgrythur, a'r gair a ddywedasai yr Iesu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar ôl i Iesu ddod yn ôl yn fyw, cofiodd ei ddisgyblion ei fod wedi dweud hyn, a dyma nhw'n credu'r ysgrifau sanctaidd a beth ddwedodd Iesu.)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly, wedi iddo gael ei gyfodi oddi wrth y meirw, cofiodd ei ddisgyblion iddo ddweud hyn, a chredasant yr Ysgrythur, a'r gair yr oedd Iesu wedi ei lefaru.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Pan gan hyny y cyfodwyd ef o feirw, ei Ddysgyblion ef a gofiasant iddo ddywedyd hyn; a hwy a gredasant yr Ysgrythyr, a'r gair a ddywedasai yr Iesu.