John 2:25 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac nad oedd arnaw eisiae testiolaethu o nep am ddyn: can y vot yn gwybot pa beth oedd mewn dyn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac am nad oedd Iddo raid i neb dystiolaethu Iddo am ddyn, canys Efe Ei hun a wyddai pa beth oedd mewn dyn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac nad oedd angen arno i neb dystio am ddyn, oherwydd gwyddai ei hunan beth oedd mewn dyn.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac nad oedd raid iddo dystiolaethu o neb iddo am ddyn: oherwydd yr oedd efe yn gwybod beth oedd mewn dyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Doedd dim angen neb i esbonio iddo, am ei fod e'n gwybod yn iawn sut mae'r meddwl dynol yn gweithio.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid oedd arno angen tystiolaeth neb ynglu375?n 'r ddynolryw; yr oedd ef ei hun yn gwybod beth oedd mewn dynion.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac nad oedd raid iddo i neb dystiolaethu am ddyn; canys yr oedd efe ei hun yn gwybod pa beth oedd mewn dyn.