John 2:4 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr Iesu a ddyuot wrthei, Peth ys yð i mi a wnel a thi wreic? ny ddeuth vy awr eto.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wrthi y dywedodd yr Iesu, Pa beth sydd i Mi a wnelwyf â thi, wraig?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac medd yr Iesu wrthi, “Beth sydd rhyngof â thi, wreigdda? Nid yw f’awr i wedi dyfod eto.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Iesu a ddywedodd wrthi, Beth sydd i mi a wnelwyf â thi, wraig? ni ddaeth fy awr i eto.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Atebodd Iesu, “Mam annwyl, gad lonydd i mi. Paid busnesa. Dydy fy amser i ddim wedi dod eto.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd Iesu wrthi hi, "Wraig, beth sydd a fynni di mi? Nid yw f'awr i wedi dod eto."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y mae yr Iesu yn dywedyd wrthi, Beth sydd i mi a wnelwyf â thi, O wraig? Ni ddaeth fy Awr i eto.