John 2:6 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ydd oedd yno chwe ch ddwfrlestri o vain, wedy gosot, yn ol devot puredigaeth yr Iuddaeon a weddei ynthwynt dau ffirkin nei dri.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yr oedd yno ddyfr-lestri meini, chwech o honynt, yn ol defod puredigaeth yr Iwddewon, yn sefyll, ac yn dal, bob un, ddau ffircyn neu dri.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac yr oedd yno chwe dyfrlestr maen wedi eu gosod yn ôl defod glanhad yr Iddewon, yn dal dau neu dri ffurcyn bob un.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yr oedd yno chwech o ddyfrlestri meini wedi eu gosod, yn ôl defod puredigaeth yr Iddewon, y rhai a ddalient bob un ddau ffircyn neu dri.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd chwech ystên garreg wrth ymyl (y math sy'n cael eu defnyddio gan yr Iddewon i ddal dŵr ar gyfer y ddefod o ymolchi seremonïol). Roedd pob un ohonyn nhw'n dal rhwng wyth deg a chant dau ddeg litr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd yno chwech o lestri carreg i ddal du373?r, wedi eu gosod ar gyfer defod glanhad yr Iddewon, a phob un yn dal ugain neu ddeg ar hugain o alwyni.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yr oedd yno chwech o ddyfr‐lestri meini, wedi eu gosod yn ol arfer puredigaeth yr Iuddewon, y rhai a ddalient ddau neu dri bath yr un.