John 2:8 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y dyvot ef wrthynt, Gellyngwch yr awr hon a’ dygwch at lywodraethwr y wledd. Ac wy ei dygesont.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a dywedodd wrthynt, Tynnwch yn awr, a dygwch at lywodraethwr y wledd. A hwy a ddygasant.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac medd ef wrthynt, “Tynnwch allan yn awr a dygwch i lywydd y wledd”; dygasant hwythau.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Gollyngwch yn awr, a dygwch at lywodraethwr y wledd. A hwy a ddygasant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dwedodd wrthyn nhw, “Cymerwch beth ohono a mynd ag e i lywydd y wledd.” Dyma nhw'n gwneud hynny,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna meddai wrthynt, "Yn awr tynnwch beth allan ac ewch ag ef i lywydd y wledd." A gwnaethant felly.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac y mae efe yn dywedyd wrthynt, Tynwch allan a dygwch i lywodraethwr y wledd. A hwy a ddygasant.