John 2:9 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gwedy provi o lywrdraethwr y wledd y dw f r a wneuthesit yn win, (can na wyddiat ef o bale y cawsit: anid y gwasanaethwyr a el’yngesent y dwr, a wyðent) llywodraethwr y wledd a alwodd ar y priodaswr,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phan archwaethodd llywodraethwr y wledd y dwfr a wnaethpwyd yn win, ac ni wyddai o ba le yr ydoedd, (ond y gwasanaethwyr a wyddent, sef y rhai a dynnasant y dwfr), galw ar y priod-fab a wnaeth llywodraethwr y wledd,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Pan brofodd llywydd y wledd y dwfr a aethai’n win, — ni wyddai ef o ba le yr oedd, ond gwyddai’r gwasanaethyddion a fu’n tynnu’r dwfr — y mae llywydd y wledd yn galw y priodfab,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan brofodd llywodraethwr y wledd y dwfr a wnaethid yn win, (ac ni wyddai o ba le yr ydoedd, eithr y gwasanaethwyr, y rhai a ollyngasent y dwfr, a wyddent,) llywodraethwr y wledd a alwodd ar y priodfab,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
a dyma llywydd y wledd yn blasu'r dŵr oedd wedi ei droi'n win. Doedd ganddo ddim syniad o ble roedd wedi dod (ond roedd y gweision oedd wedi codi'r dŵr yn gwybod). Yna galwodd y priodfab ato
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Profodd llywydd y wledd y du373?r, a oedd bellach yn win, heb wybod o ble'r oedd wedi dod, er bod y gwasanaethyddion a fu'n tynnu'r du373?r yn gwybod. Yna galwodd llywydd y wledd ar y priodfab
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond pan brofodd llywodraethwr y wledd y dwfr sydd wedi dyfod yn win, ac ni wyddai o ba le y mae, (eithr y gwasanaethwyr a wyddent, y rhai oeddynt wedi tynu y dwfr) y mae llywodraethwr y wledd yn galw y priod‐fab, ac yn dywedyd wrtho,