John 20:1 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
AC ar y dydd cyntaf o’r wythnos y deuth Mair Magdalen, yn vorae ac y hi eto yn dywyll, ir vōwent, ac a weles y maen wedy’r dreiglo y ar y vonwent.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac y dydd cyntaf o’r wythnos Mair Magdalen a ddaeth y bore, a hi etto yn dywyll, at y bedd; a gwelodd y maen wedi ei ddwyn ymaith oddiwrth y bedd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac ar ddydd cyntaf yr wythnos, y mae Mair o Fagdala yn y bore bach, a hi eto’n dywyll, yn dyfod at y bedd, ac y mae’n gweled y garreg wedi ei symud oddiar y bedd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y dydd cyntaf o'r wythnos, Mair Magdalen a ddaeth y bore, a hi eto'n dywyll, at y bedd; ac a welodd y maen wedi ei dynnu ymaith oddi ar y bedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn gynnar iawn ar y bore Sul, a hithau'n dal yn dywyll, dyma Mair Magdalen yn mynd at y bedd a darganfod fod y garreg fawr oedd ar geg y bedd wedi ei symud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ar y dydd cyntaf o'r wythnos, yn fore, tra oedd hi eto'n dywyll, dyma Mair Magdalen yn dod at y bedd, ac yn gweld bod y maen wedi ei dynnu oddi wrth y bedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond ar y Dydd Cyntaf o'r wythnos mae Mair Magdalen yn dyfod yn fore, a hi eto yn dywyll, at y bedd, ac y mae yn gweled y maen wedi ei godi ymaith o'r bedd.