John 20:13 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ dywedesont wrthei, Ha wreic paam yr wyly? Dywedawdd hi wrthynt, Wy a gymersont ymaith vy Arglwydd, ac ny wn p’le y dodesont ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac wrthi y dywedasant hwy, O wraig, paham y gwyli? Dywedodd wrthynt, Am ddwyn o honynt fy Arglwydd ymaith, ac na wn pa le y dodasant Ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dywed y rhain wrthi: “Ferch, paham yr wyt ti’n wylo?” Medd hithau wrthynt: “Am eu bod wedi myned â’m Harglwydd ymaith, ac ni wn ym mha le y maent wedi ei ddodi ef.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a ddywedasant wrthi, O wraig, paham yr wyt ti yn wylo? Hithau a ddywedodd wrthynt, Am ddwyn ohonynt hwy fy Arglwydd i ymaith, ac nas gwn pa le y dodasant ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma nhw'n gofyn i Mair, “Wraig annwyl, pam rwyt ti'n crïo?” “Maen nhw wedi cymryd fy Arglwydd i ffwrdd,” atebodd, “a dw i ddim yn gwybod ble maen nhw wedi mynd ag e”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac meddai'r rhain wrthi, "Wraig, pam yr wyt ti'n wylo?" Atebodd hwy, "Y maent wedi cymryd fy Arglwydd i ffwrdd, ac ni wn i lle y maent wedi ei roi i orwedd."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac y maent hwy yn dywedyd wrthi hi, O Wraig, paham yr ydwyt yn wylo? Hithau a ddywed wrthynt, Am ddwyn o honynt ymaith fy Arglwydd i, ac nas gwn pa le y dodasant ef.