John 20:15 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Dywedyt or Iesu wrthei, A‐ wraic, pa wylo ydd wyt? pwy dd wyt yn ei geisio? Hi the yn tybiet mai ’r garddwr oedd ef, a ddyvot wrthaw, Arglwyð, a ’s ti y duc ef ymaith, dyweit i mi p’le y dodeist efe, a’ mi y dugaf e ymaith.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Wrthi y dywedodd yr Iesu, O wraig, paham y gwyli? Pwy a geisi? Hithau yn tybied mai y garddwr ydoedd, a ddywedodd Wrtho, Syr, os tydi a’i cymmeraist Ef, dywaid wrthyf pa le y dodaist Ef, ac myfi a’i dygaf Ef ymaith.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Medd Iesu wrthi: “Ferch, paham yr wyt ti’n wylo? Pwy a geisi?” A chan feddwl mai ceidwad yr ardd ydoedd, medd hithau wrtho: “Syr, os ti a’i dug, dywed i mi ym mha le y dodaist ef, ac af innau ag ef ymaith.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr Iesu a ddywedodd wrthi, O wraig, paham yr wyt ti yn wylo? pwy yr wyt ti yn ei geisio? Hithau, yn tybied mai'r garddwr oedd efe, a ddywedodd wrtho, Syr, os tydi a'i dygaist ef, dywed i mi pa le y dodaist ef, a myfi a'i cymeraf ef ymaith.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Wraig annwyl,” meddai Iesu wrthi, “pam rwyt ti'n crïo? Am bwy rwyt ti'n chwilio?” Roedd hi'n meddwl mai'r garddwr oedd e, a dwedodd, “Syr, os mai ti sydd wedi ei symud, dywed lle rwyt ti wedi ei roi e, a bydda i'n mynd i'w nôl e.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Wraig," meddai Iesu wrthi, "pam yr wyt ti'n wylo? Pwy yr wyt yn ei geisio?" Gan feddwl mai'r garddwr ydoedd, dywedodd hithau wrtho, "Os mai ti, syr, a'i cymerodd ef, dywed wrthyf lle y rhoddaist ef i orwedd, ac fe'i cymeraf fi ef i'm gofal."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Iesu a ddywed wrthi, O wraig, paham yr wyt ti yn wylo? pwy yr wyt ti yn ei geisio? Hithau yn tybied mai y garddwr yw efe, a ddywed wrtho, Syr, os tydi a'i dygaist ef ymaith, dywed i mi pa le y dodaist ef, a myfi a'i cymmeraf ef ymaith.