John 20:17 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Dywedyt o’r Iesu wrthei, Na chyfwrð am vi: can na’ d escēnais i etwa at vy‐Tat, eithr dos at vy‐broder, a’ dywet wrthyn, Escennaf at vy‐Tat i, a’ch Tat chwi, ac at vy‐Duw i, a’ch Duw chwi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Wrthi y dywedodd yr Iesu, Na chyffwrdd â Myfi, canys nid esgynais etto at y Tad; ond dos at Fy mrodyr, a dywaid wrthynt, Esgyn yr wyf at Fy Nhad a’ch Tad chwi, a’m Duw a’ch Duw chwi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Medd Iesu wrthi: “Paid â chyffwrdd â mi; nid wyf i eto wedi myned i fyny at fy nhad, ond dos at fy mrodyr a dywed hyn wrthynt: ‘Yr wyf i yn myned i fyny at fy nhad i a’ch tad chwithau, a’m Duw i a’ch Duw chwithau.’ ”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr Iesu a ddywedodd wrthi, Na chyffwrdd â mi; oblegid ni ddyrchefais i eto at fy Nhad: eithr dos at fy mrodyr, a dywed wrthynt, Yr wyf yn dyrchafu at fy Nhad i a'ch Tad chwithau, a'm Duw i a'ch Duw chwithau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Iesu'n dweud wrthi, “Paid dal gafael ynof fi. Dw i ddim yn mynd i fyny at y Tad eto. Dos at fy mrodyr i a dweud wrthyn nhw, ‘Dw i'n mynd at fy Nhad a'm Duw, eich Tad a'ch Duw chi hefyd.’”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Meddai Iesu wrthi, "Paid glynu wrthyf, oherwydd nid wyf eto wedi esgyn at y Tad. Ond dos at fy mrodyr, a dywed wrthynt, 'Yr wyf yn esgyn at fy Nhad i a'ch Tad chwi, fy Nuw i a'ch Duw chwi.'"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Dywed Iesu wrthi, Na ddal afael ynof; canys nid wyf fi eto wedi esgyn at y Tâd: eithr dos at fy mrodyr, a dywed wrthynt, Yr wyf yn esgyn at fy Nhâd i a'ch Tâd chwithau, a'm Duw i a'ch Duw chwithau.