John 20:18 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Daeth Mair Magdalen, ac a venagodd ir discipulon weled o hanei yr Arglwydd, a’ dywedyt o hanaw y pethe hyn wrthei. Yr Euangel y Sul cyntaf gwedyr Pasc.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Daeth Mair Magdalen gan fynegi i’r disgyblion, Gwelais yr Arglwydd, ac mai’r pethau hyn a ddywedasai Efe wrthi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Y mae Mair o Fagdala yn dyfod ac yn mynegi i’r disgyblion: “Yr wyf wedi gweled yr Arglwydd,” ac iddo ddywedyd felly wrthi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Mair Magdalen a ddaeth ac a fynegodd i'r disgyblion, weled ohoni hi yr Arglwydd, a dywedyd ohono y pethau hyn iddi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna aeth Mair Magdalen at y disgyblion a dweud: “Dw i wedi gweld yr Arglwydd!” A dwedodd wrthyn nhw beth oedd e wedi ei ddweud wrthi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac aeth Mair Magdalen i gyhoeddi'r newydd i'r disgyblion. "Yr wyf wedi gweld yr Arglwydd," meddai, ac eglurodd ei fod wedi dweud y geiriau hyn wrthi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Mae Mair Magdalen yn dyfod gan hysbysu i'r Dysgyblion, Yr wyf fi wedi gweled yr Arglwydd; ac iddo ddywedyd y pethau hyn wrthi.