John 20:19 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
¶ Y dydd hwnw yn yr hwyr nos yr hwn oedd y dydd cyntaf or wythnos, ac a’r drysae yn gayad, lle ydd oedd y discipulon wedyr ymgynnull rac ofn yr Iuddaeon, y daeth yr Iesu ac y savawdd yn y cenawl, ac y dyvot wrthwynt, Tangweddyf ywch.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yna pan oedd yr hwyr y dydd hwnw, y cyntaf o’r wythnos, a’r drysau yn gauad lle yr oedd y disgyblion, rhag ofn yr Iwddewon, daeth yr Iesu, a safodd yn y canol, a dywedodd wrthynt, Tangnefedd i chwi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan oedd hi’n hwyr y dydd cyntaf hwnnw o’r wythnos, a’r drysau wedi eu cau, lle yr oedd y disgyblion, rhag ofn yr Iddewon, daeth yr Iesu a safodd yn y canol, ac medd ef wrthynt: “Tangnefedd i chwi.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna, a hi yn hwyr y dydd cyntaf hwnnw o'r wythnos, a'r drysau yn gaead lle yr oedd y disgyblion wedi ymgasglu ynghyd rhag ofn yr Iddewon, daeth yr Iesu, ac a safodd yn y canol, ac a ddywedodd wrthynt, Tangnefedd i chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Y noson honno, sef nos Sul, roedd y disgyblion gyda'i gilydd. Er bod y drysau wedi eu cloi am fod ganddyn nhw ofn yr arweinwyr Iddewig, dyma Iesu'n dod i mewn a sefyll yn y canol. “Shalôm!” meddai wrthyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gyda'r nos ar y dydd cyntaf hwnnw o'r wythnos, yr oedd y drysau wedi eu cloi lle'r oedd y disgyblion, oherwydd eu bod yn ofni'r Iddewon. A dyma Iesu'n dod ac yn sefyll yn eu canol, ac yn dweud wrthynt, "Tangnefedd i chwi!"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Pan oedd hi gan hyny yn hŵyr, ar y Dydd hwnw, y Cyntaf o'r wythnos, a'r drysau yn gauad lle yr oedd y Dysgyblion, o achos ofn yr Iuddewon, daeth yr Iesu, ac a safodd yn y canol, a dywed wrthynt, Tangnefedd i chwi.