John 20:2 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y rhedawð hi, ac hi deuth at Simon Petr, ac at y discipul arall yr hwn oeð hoff can yr Iesu, ac a ðyvot wrthwynt. Wy a ðugesont ymaith yr Arglwydd or vonwent, ac ny wyðam p’le y dodesont ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Rhedodd, gan hyny, a daeth at Shimon Petr, ac at y disgybl arall yr hwn oedd hoff gan yr Iesu, a dywedodd wrthynt, Dygasant yr Arglwydd o’r bedd, ac nis gwyddom pa le y dodasant Ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly, y mae’n rhedeg ac yn dyfod at Simon Pedr ac at y disgybl arall yr oedd yr Iesu yn ei garu, ac yn dywedyd wrthynt: “Y maent wedi myned â’r Arglwydd o’r bedd, ac ni wyddom ym mha le y maent wedi ei ddodi.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y rhedodd hi, ac a ddaeth at Simon Pedr, a'r disgybl arall yr hwn yr oedd yr Iesu yn ei garu, ac a ddywedodd wrthynt, Hwy a ddygasant yr Arglwydd ymaith o'r bedd, ac ni wyddom ni pa le y dodasant ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma hi'n rhedeg at Simon Pedr a'r disgybl arall (yr un oedd Iesu'n ei garu'n fawr), a dweud wrthyn nhw, “Maen nhw wedi cymryd yr Arglwydd allan o'r bedd, a dŷn ni ddim yn gwybod ble maen nhw wedi ei roi e!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rhedodd, felly, nes dod at Simon Pedr a'r disgybl arall, yr un yr oedd Iesu'n ei garu. Ac meddai wrthynt, "Y maent wedi cymryd yr Arglwydd allan o'r bedd, ac ni wyddom lle y maent wedi ei roi i orwedd."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y mae hi yn rhedeg gan hyny, ac yn dyfod at Simon Petr a'r Dysgybl arall, yr hwn yr oedd yr Iesu yn ei hoffi, ac yn dywedyd wrthynt, Hwy a ddygasant yr Arglwydd allan o'r bedd, ac ni wyddom ni pa le y dodasant ef.