John 20:21 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y dyvot yr Iesu wrthwynt drachefyn, Tangneðyf ywch, megis yd anvones vy‐Ta vy vi, velly yd anvona vi chwi thae.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gan hyny, wrthynt y dywedodd yr Iesu drachefn, Tangnefedd i chwi. Fel y danfonodd y Tad Fi, Myfi hefyd wyf yn eich gyrru chwi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dywedodd yr Iesu wrthynt wedyn: “Tangnefedd i chwi; fel yr anfonodd y tad fi, yr wyf innau yn eich anfon chwithau.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt drachefn, Tangnefedd i chwi: megis y danfonodd y Tad fi, yr wyf finnau yn eich danfon chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dwedodd Iesu eto, “Shalôm! Yn union fel anfonodd y Tad fi, dw i hefyd yn eich anfon chi.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Meddai Iesu wrthynt eilwaith, "Tangnefedd i chwi! Fel y mae'r Tad wedi fy anfon i, yr wyf fi hefyd yn eich anfon chwi."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Dywedodd efe gan hyny wrthynt drachefn, Tangnefedd i chwi. Fel y mae y Tâd wedi fy anfon i, yr wyf fi hefyd yn eich anfon chwi.