John 20:23 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Pwy bynac y madaeoch ei pechatae, eu maddeuir yðynt a’r eiddo pwy pynac yr atalioch, eu a atalijr. Yr Euangel ar ddie gwyl Thomas.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Pwy bynnag y maddeuoch eu pechodau, maddeuir hwy iddynt; a’r eiddo pwy bynnag a attalioch, attaliwyd hwynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Pwy bynnag y maddeuoch chwi eu pechodau, y maent wedi eu maddeu iddynt, a phwy bynnag y rhwymoch eu pechodau arnynt, y maent wedi eu rhwymo.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pwy bynnag y maddeuoch eu pechodau, maddeuir iddynt; a'r eiddo pwy bynnag a atalioch, hwy a ataliwyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os gwnewch chi faddau pechodau rhywun, bydd y pechodau hynny yn cael eu maddau; ond os fyddwch chi ddim yn maddau iddyn nhw, fyddan nhw ddim yn cael maddeuant.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os maddeuwch bechodau rhywun, y maent wedi eu maddau; os peidiwch 'u maddau, y maent heb eu maddau."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
pechodau pwy bynag a faddeuoch, y maent wedi eu maddeu iddynt; ac eiddo pwy bynag a ddeliwch yn dyn, y maent wedi eu dal yn dyn.