John 20:26 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ar ben wyth diernot drachefyn ydd oedd eu ddiscipulon y mewn, a’ Thomas y gyd a hwy. Yno dyvot o’r Iesu a’r drysaw yn gayad, a’ sefyll yn y cenol, a’dywedyt, Tāgneðyf ywch
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi wyth niwrnod, drachefn yr oedd Ei ddisgyblion i mewn, a Thomas gyda hwynt. Daeth yr Iesu, a’r drysau yn gauad, a safodd yn y canol, a dywedodd, Tangnefedd i chwi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi wyth niwrnod, yr oedd ei ddisgyblion wedyn yn y tŷ, a Thomas gyda hwy. Y mae’r Iesu yn dyfod, a’r drysau wedi eu cau, a safodd yn y canol a dywedodd: “Tangnefedd i chwi.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi wyth niwrnod drachefn yr oedd ei ddisgyblion ef i mewn, a Thomas gyda hwynt. Yna yr Iesu a ddaeth, a'r drysau yn gaead, ac a safodd yn y canol, ac a ddywedodd, Tangnefedd i chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wythnos yn ddiweddarach roedd y disgyblion yn y tŷ eto, a'r tro hwn roedd Tomos yno gyda nhw. Er bod y drysau wedi eu cloi, daeth Iesu i mewn a sefyll yn y canol a dweud, “Shalôm!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac ymhen wythnos, yr oedd y disgyblion unwaith eto yn y tu375?, a Thomas gyda hwy. A dyma Iesu'n dod, er bod y drysau wedi eu cloi, ac yn sefyll yn y canol a dweud, "Tangnefedd i chwi!"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi wyth niwrnod drachefn yr oedd ei Ddysgyblion ef i mewn, a Thomas gyd â hwynt. Mae yr Iesu yn dyfod, a'r drysau yn gauad, ac a safodd yn y canol, ac a ddywedodd, Tangnefedd i chwi.