John 20:27 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Gwedy y dyvot ef wrth Thomas. Dod dy vys yma, a’ gwyl vy‐dwylo, ac esten dy law, a’ dod yn v’ystlys, ac na vydd ancrededyn amyn creddyn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yna y dywedodd wrth Thomas, Moes dy fys yma, a gwel Fy nwylaw; a moes dy law, a dod yn Fy ystlys; ac na fydd anghredadyn, eithr yn gredadyn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yna dywed wrth Domas: “Tyred â’th fys yma, a gwêl fy nwylo, a thyred â’th law a dyro hi yn fy ochr, ac na bydd anghredwr, ond credwr.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wedi hynny y dywedodd efe wrth Thomas, Moes yma dy fys, a gwêl fy nwylo; ac estyn dy law, a dod yn fy ystlys: ac na fydd anghredadun, ond credadun.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Trodd at Tomos a dweud, “Edrych ar fy arddyrnau; rho dy fys i mewn ynddyn nhw. Estyn dy law i'w rhoi yn fy ochr i. Stopia amau! Creda!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna meddai wrth Thomas, "Estyn dy fys yma. Edrych ar fy nwylo. Estyn dy law a'i rhoi yn fy ystlys. A phaid bod yn anghredadun, bydd yn gredadun."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yna y dywed efe wrth Thomas, Estyn yma dy fys, a gwel fy nwylaw; ac estyn dy law, a dod yn fy ystlys: ac na fydd anghrediniol, ond credinol.