John 20:30 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ llawer hefyt o arwyddion eraill a wnaeth yr Iesu yn‐gwydd ei ddiscipulon, a’r ny d yw yn yscrivenedir yn y llyfer hwn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Llawer hefyd o arwyddion eraill a wnaeth yr Iesu yngwydd y disgyblion, y rhai nid ydynt ysgrifenedig yn y llyfr hwn;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A gwnaeth yr Iesu yn wir lawer o arwyddion eraill hefyd yng ngŵydd y disgyblion, nad ydynt wedi eu hysgrifennu yn y llyfr hwn;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A llawer hefyd o arwyddion eraill a wnaeth yr Iesu yng ngŵydd ei ddisgyblion, y rhai nid ydynt ysgrifenedig yn y llyfr hwn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwelodd y disgyblion Iesu yn gwneud llawer o arwyddion gwyrthiol eraill, ond dw i ddim wedi ysgrifennu amdanyn nhw yma.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd llawer o arwyddion eraill, yn wir, a wnaeth Iesu yng ngu373?ydd ei ddisgyblion, nad ydynt wedi eu cofnodi yn y llyfr hwn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Llawer ac arwyddion eraill gan hyny a wnaeth yr Iesu yn ngŵydd y Dysgyblion, y rhai nid ydynt ysgrifenedig yn y Llyfr hwn: