John 20:4 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac a redesont ill dau ar vnwaith, a’r discipul arall hwn a rag redodd o vlaen Petr, ac a ddeuth yn gyntaf ir vonwent.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a rhedasant ill dau ar unwaith; ac y disgybl arall a rag-redodd yn gynt na Petr, ac a ddaeth yn gyntaf at y bedd;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac yr oedd y ddau’n rhedeg gyda’i gilydd, ond rhedodd y disgybl arall yn gynt na Phedr o’i flaen, a daeth yn gyntaf at y bedd,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac a redasant ill dau ynghyd: a'r disgybl arall a redodd o'r blaen yn gynt na Phedr, ac a ddaeth yn gyntaf at y bedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Rhedodd y ddau gyda'i gilydd, ond dyma'r disgybl arall yn rhedeg yn gynt na Pedr a chyrraedd yno o'i flaen.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd y ddau'n cydredeg, ond rhedodd y disgybl arall ymlaen yn gynt na Pedr, a chyrraedd y bedd yn gyntaf.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a hwy a ddechreuasant redeg ill dau ynghyd; a'r Dysgybl arall a redodd o'r blaen yn gynt na Phetr, ac a ddaeth gyntaf at y bedd;