John 20:5 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a grymawdd, ac a ganvu y llieniae wedy’r ’osot: er hyny nyd aeth ef y mewn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac wedi ymgrymmu, gwelodd y llieiniau yn gorwedd, ond nid aeth i mewn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac wedi gwyro, y mae’n gweled y llieiniau ar lawr, ond eto nid aeth i mewn.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi iddo grymu, efe a ganfu'r llieiniau wedi eu gosod: er hynny nid aeth efe i mewn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Plygodd i edrych i mewn i'r bedd, a gweld y stribedi o liain yn gorwedd yno, ond aeth e ddim i mewn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Plygodd i edrych, a gwelodd y llieiniau yn gorwedd yno, ond nid aeth i mewn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a chan ymgrymu y mae efe yn canfod y llieiniau yn gorwedd; er hyny nid aeth efe i mewn.