John 20:8 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno yðaeth y mewn y discipul arall hefyt, yr hwn a ddeuthei yn gyntaf ir vonwent, ac ef ei gwelawdd, ac a gredawdd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yna, gan hyny, yr aeth y disgybl arall hefyd i mewn, yr hwn a ddaethai yn gyntaf at y bedd, a gwelodd, a chredodd;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yna aeth y disgybl arall hefyd i mewn, a ddaethai’n gyntaf at y bedd, a gwelodd a chredodd;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna yr aeth y disgybl arall hefyd i mewn, yr hwn a ddaethai yn gyntaf at y bedd; ac a welodd, ac a gredodd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna, yn y diwedd, dyma'r disgybl arall (oedd wedi cyrraedd y bedd gyntaf) yn mynd i mewn hefyd. Pan welodd e'r cwbl, credodd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna aeth y disgybl arall, y cyntaf i ddod at y bedd, yntau i mewn. Gwelodd, ac fe gredodd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yna gan hyny yr aeth y Dysgybl arall hefyd i mewn, yr hwn a ddaethai gyntaf at y bedd, ac efe a welodd, ac a gredodd.