John 20:9 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys yd hyn ny’s gwyddent vvy yr Strythur, y byddei raid yddaw g yf ody drachefn o veirw,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys ni wyddent etto yr ysgrythyr fod rhaid Ei gyfodi o feirw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
canys nid oeddynt yn deall eto yr Ysgrythur, ei bod yn rhaid iddo atgyfodi oddiwrth y meirw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys hyd yn hyn ni wyddent yr ysgrythur, fod yn rhaid iddo gyfodi o feirw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
(Doedden nhw ddim eto wedi deall fod yr ysgrifau sanctaidd yn dweud fod rhaid i Iesu ddod yn ôl yn fyw.)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd nid oeddent eto wedi deall yr hyn a ddywed yr Ysgrythur, fod yn rhaid iddo atgyfodi oddi wrth y meirw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys hyd yn hyn ni wyddent yr Ysgrythyr, fod yn rhaid iddo adgyfodi o feirw.