John 21:1 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
GWedy ’r pethe hyn yr ymðangosoð yr Iesu drachefyn yw ddiscipulon wrth vor Tiberias: ac vellyn yr ym ddangosawdd ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gwedi’r pethau hyn, amlygodd yr Iesu Ei hun drachefn i’r disgyblion ar fôr Tiberias; ac amlygodd Ei hun fel hyn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ar ôl hyn, fe’i dangosodd Iesu ei hun drachefn i’r disgyblion, ar fôr Tiberias, ac a fel hyn y’i dangosodd ei hun.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwedi'r pethau hyn, yr Iesu a ymddangosodd drachefn i'w ddisgyblion wrth fôr Tiberias: ac fel hyn yr ymddangosodd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Iesu'n ymddangos i'w ddisgyblion eto wrth Lyn Tiberias.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ar l hyn, amlygodd Iesu ei hun unwaith eto i'w ddisgyblion, ar lan Mr Tiberias. A dyma sut y gwnaeth hynny.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Wedi y pethau hyn yr amlygodd yr Iesu ei hun drachefn i'r Dysgyblion wrth Fôr Tiberias; ac efe a amlygodd ei hun fel hyn:—