John 21:11 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Simon Petr a escennawð ac dynnoð y rhwyt i’r tir, yn llawn pyscot mawrion, cant a ’thri ar ddec a daugain: a’ chyt bot cynniuer, er hyny ny ddryllioð y rhwyt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gan hyny, esgynodd Shimon Petr, a llusgodd y rhwyd i dir, yn llawn o bysgod mawrion, cant a thriarddeg a deugain; ac er mai cymmaint oeddynt, ni rwygwyd y rhwyd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Aeth Simon i’r llong, a thynnodd y rhwyd i’r lan yn llawn o bysgod mawr, cant a thri ar ddeg a deugain ohonynt, ac er cynifer oeddynt, ni rwygodd y rhwyd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Simon Pedr a esgynnodd, ac a dynnodd y rhwyd i dir, yn llawn o bysgod mawrion, cant a thri ar ddeg a deugain: ac er bod cymaint, ni thorrodd y rhwyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma Simon Pedr yn mynd i mewn i'r cwch a llusgo'r rhwyd i'r lan. Roedd hi'n llawn o bysgod mawrion, 153 ohonyn nhw, ond er hynny wnaeth y rhwyd ddim rhwygo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dringodd Simon Pedr i'r cwch, a thynnu'r rhwyd i'r lan yn llawn o bysgod braf, cant pum deg a thri ohonynt. Ac er bod cymaint ohonynt, ni thorrodd y rhwyd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Simon Petr gan hyny a aeth i fyny i'r cwch, ac a dynodd y rhwyd i'r tir, yn llawn o bysgod mawrion, cant a thri ar ddeg a deugain: ac er bod cymaint, ni thorodd y rhwyd.