John 21:12 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr Iesu a ddyvot wrthynt, Dewch a’ chyniewch. Ac ny veiddiawdd yr vn or discipulon ymofyn ac ef, Pwy yw ti, ac wy yn gwybot may’r Arglwydd oedd ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Wrthynt y dywedodd yr Iesu, Deuwch ciniawwch. Ac ni feiddiai neb o’r disgyblion ofyn Iddo, Pwy wyt Ti? gan wybod mai yr Arglwydd ydoedd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Medd yr Iesu wrthynt: “Dewch at eich brecwast.” Ni feiddiodd yr un o’r disgyblion ofyn iddo “Pwy wyt ti?” a hwythau’n gwybod mai’r Arglwydd ydoedd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Deuwch, ciniewch. Eithr ni feiddiai neb o'r disgyblion ofyn iddo, Pwy wyt ti? am eu bod yn gwybod mai yr Arglwydd oedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dewch i gael brecwast,” meddai Iesu. Doedd dim un o'r disgyblion yn meiddio gofyn iddo, “Pwy wyt ti?” — roedden nhw yn gwybod yn iawn mai'r Arglwydd oedd e.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Dewch," meddai Iesu wrthynt, "cymerwch frecwast." Ond nid oedd neb o'r disgyblion yn beiddio gofyn iddo, "Pwy wyt ti?" Yr oeddent yn gwybod mai yr Arglwydd ydoedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Dywed yr Iesu wrthynt, Deuwch, bwytêwch foreu‐fwyd. Ac ni feiddiai neb o'r Dysgyblion ei holi yn fanwl, Pwy wyt ti, gan eu bod yn gwybod mai yr Arglwydd ydyw.