John 21:13 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno yr Iesu a ddaeth ac a gymerth vara, ac a roes yddynt, a’ phys cot yr vn modd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Daeth yr Iesu, a chymmerodd fara, ac ei rhoddes iddynt, a’r pysgod yr un modd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dyma’r Iesu’n dyfod ac yn cymryd y bara ac yn ei roddi iddynt, a’r pysgod yr un modd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y daeth yr Iesu, ac a gymerth fara, ac a'i rhoddes iddynt, a'r pysgod yr un modd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma Iesu'n cymryd y bara a'i roi iddyn nhw, a gwneud yr un peth gyda'r pysgod.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth Iesu atynt, a chymerodd y bara a'i roi iddynt, a'r pysgod yr un modd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y mae yr Iesu yn dyfod, ac yn cymmeryd y bara, ac yn rhoddi iddynt, a'r pysgod yr un modd.