John 21:15 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno gwedy yddyn giniawa, yr Iesu a ddyvot wrth Simon Petr, Simon ’ap Iona, A gery di vi yn vwy na rhein? Ef a ddyvot wrthaw, Do Arglwydd, tu wyddost y caraf i di. Ef a ddyvot wrthaw, Porth a vy wyn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gan hyny, wedi ciniawa o honynt wrth Shimon Petr y dywedodd yr Iesu, Shimon mab Iona, ai hoff genyt Fi yn fwy na’r rhai hyn? Dywedodd yntau Wrtho, Y mae, Arglwydd: Tydi a wyddost mai Dy garu yr wyf. Dywedodd Efe wrtho, Portha Fy ŵyn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly ar ôl iddynt gael eu brecwast, medd yr Iesu wrth Simon Pedr: “Simon fab Ioan, a wyt ti’n fy ngharu i yn fwy na’r rhain?” Medd ef wrtho: “Ydwyf, Arglwydd. Ti wyddost fy mod yn dy garu di.” Medd ef wrtho: “Portha fy ŵyn i.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna gwedi iddynt giniawa, yr Iesu a ddywedodd wrth Simon Pedr, Simon mab Jona, a wyt ti yn fy ngharu i yn fwy na'r rhai hyn? Dywedodd yntau wrtho, Ydwyf, Arglwydd; ti a wyddost fy mod yn dy garu di. Dywedodd yntau wrtho, Portha fy ŵyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan roedden nhw wedi gorffen bwyta, dyma Iesu'n troi at Simon Pedr a dweud, “Simon fab Ioan, wyt ti wir yn fy ngharu i fwy na'r rhain?” “Ydw, Arglwydd,” atebodd, “rwyt ti'n gwybod mod i'n dy garu di.” Dwedodd Iesu wrtho, “Gofala am fy ŵyn.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna, wedi iddynt gael brecwast, gofynnodd Iesu i Simon Pedr, "Simon fab Ioan, a wyt ti'n fy ngharu i yn fwy na'r rhain?" Atebodd ef, "Ydwyf, Arglwydd, fe wyddost ti fy mod yn dy garu di." Meddai Iesu wrtho, "Portha fy u373?yn."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Wedi iddynt gan hyny gymmeryd boreu‐fwyd, dywed yr Iesu wrth Simon Petr, Simon, mab Ioan, A wyt ti yn fy ngharu i yn fwy na'r rhai hyn? Dywed yntau wrtho, Ydwyf, Arglwydd, Ti a wyddost fy mod yn dy hoffi di. Dywed yntau wrtho, Portha fy wyn.