John 21:16 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ef a ðyvot wrtho drachefyn yr ail waith, Simon ’ap Iona a gery di vi? Ef a ðyuot wrthaw, Do Arglwyð, tu wyddost y caraf i di. Ef a ðyvot wrthaw, Porth a vy‐deueit.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Dywedodd wrtho drachefn, yr ail waith, Shimon mab Iona, Ai hoff genyt Fi? Dywedodd yntau Wrtho, Y mae, Arglwydd; Tydi a wyddost mai Dy garu yr wyf. Dywedodd Efe wrtho, Bugeilia Fy nefaid.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Medd ef wrtho eilwaith drachefn: “Simon fab Ioan, a wyt yn fy ngharu i?” Medd ef wrtho: “Ydwyf, Arglwydd, ti wyddost fy mod yn dy garu.” Medd ef wrtho: “Bydd yn fugail ar fy nefaid i.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Efe a ddywedodd wrtho drachefn yr ail waith, Simon mab Jona, a wyt ti yn fy ngharu i? Dywedodd yntau wrtho, Ydwyf, Arglwydd; ti a wyddost fy mod yn dy garu di. Dywedodd yntau wrtho, Bugeilia fy nefaid.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna gofynnodd Iesu eto, “Simon fab Ioan, wyt ti wir yn fy ngharu i?” Dwedodd eto, “Ydw, Arglwydd, rwyt ti'n gwybod mod i'n dy garu di.” Meddai Iesu, “Arwain fy nefaid.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedyn gofynnodd iddo yr ail waith, "Simon fab Ioan, a wyt ti'n fy ngharu i?" "Ydwyf, Arglwydd," meddai Pedr wrtho, "fe wyddost ti fy mod yn dy garu di." Meddai Iesu wrtho, "Bugeilia fy nefaid."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Dywed wrtho drachefn yr ail waith, Simon, mab Ioan, A wyt ti yn fy ngharu i? Dywed yntau wrtho, Ydwyf, Arglwydd; ti a wyddost fy mod yn dy hoffi di. Dywed yntau wrtho, Bugeilia fy nefaid.