John 21:17 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ef a ddyuot wrthaw y drydedd waith, Simon ’ap Iona, a geri di vi. Tristau a wnaeth Petr o bleit yddo dywedyt wrthaw y drydedd waith, A gery di vi: ac a ddyuot wrthaw, Arglwyð, tu a wyddost bop peth oll: tu wyddost y caraf di. Yr Iesu a ddyuot wrthaw, Porth vy‐deueit,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Dywedodd wrtho y drydedd waith, Shimon mab Iona, Ai Fy ngharu yr wyt? Poenwyd Petr am ddywedyd o Hono wrtho y drydedd waith, Ai Fy ngharu yr wyt? a dywedodd Wrtho, Arglwydd, pob peth Tydi a wyddost; Tydi a genfyddi mai Dy garu yr wyf.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Medd ef wrtho y trydydd tro: “Simon fab Ioan, a wyt yn fy ngharu i?” Gofidiodd Pedr iddo ddywedyd wrtho y trydydd tro, “A wyt ti’n fy ngharu i?” ac medd ef wrtho: “Arglwydd, gwyddost ti bopeth, gwyddost ti fy mod yn dy garu di.” Medd Iesu wrtho: “Portha fy nefaid i.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Efe a ddywedodd wrtho'r drydedd waith, Simon mab Jona, a wyt ti yn fy ngharu i? Pedr a dristaodd am iddo ddywedyd wrtho y drydedd waith, A wyt ti yn fy ngharu i? Ac efe a ddywedodd wrtho, Arglwydd, ti a wyddost bob peth; ti a wyddost fy mod i yn dy garu di. Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Portha fy nefaid.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna gofynnodd Iesu iddo'r drydedd waith, “Simon fab Ioan, wyt ti'n fy ngharu i?” Roedd Pedr yn ddigalon fod Iesu wedi gofyn eto'r drydedd waith, “Wyt ti'n fy ngharu i?” “Arglwydd,” meddai, “rwyt ti'n gwybod pob peth; rwyt ti'n gwybod mod i'n dy garu di.” Yna dwedodd Iesu, “Gofala am fy nefaid.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gofynnodd iddo y drydedd waith, "Simon fab Ioan, a wyt ti'n fy ngharu i?" Aeth Pedr yn drist am ei fod wedi gofyn iddo y drydedd waith, "A wyt ti'n fy ngharu i?" Ac meddai wrtho, "Arglwydd, fe wyddost ti bob peth, ac rwyt ti'n gwybod fy mod yn dy garu di." Dywedodd Iesu wrtho, "Portha fy nefaid.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Dywed efe wrtho y drydedd waith, Simon, mab Ioan, A wyt ti yn fy hoffi i? Petr a dristawyd am iddo ddywedyd wrtho y drydedd waith, A wyt ti yn fy hoffi i? Ac efe a ddywedodd wrtho, Arglwydd, ti a wyddost bob peth; ti ydwyt yn canfod fy mod yn dy hoffi di. Iesu a ddywed wrtho, Portha fy nefaid.