John 21:19 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ hyn a ddyvot ef, yn arwyddocau gan pa angae y gogoneddei ef Dduw. A’ gwedy yddo ddywedyt hyn, y dyvot wrthaw, Dilin vi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A hyn a ddywedodd Efe gan arwyddo trwy ba fath ar angau y gogoneddai efe Dduw: ac wedi dywedyd hyn, dywedodd wrtho, Canlyn Fi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Hyn a ddywedodd i arwyddocau â pha fath o farw y gogoneddai Dduw. Ac wedi dywedyd hyn, medd ef wrtho: “Canlyn fi.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hyn a ddywedodd efe, gan arwyddo trwy ba fath angau y gogoneddai efe Dduw. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a ddywedodd wrtho, Canlyn fi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
(Dwedodd Iesu hyn i ddangos sut roedd Pedr yn mynd i anrhydeddu Duw trwy farw.) Yna dyma Iesu'n dweud wrtho, “Dilyn fi.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd hyn i ddangos beth fyddai dull y farwolaeth yr oedd Pedr i ogoneddu Duw trwyddi. Ac wedi iddo ddweud hyn, meddai wrth Pedr, "Canlyn fi."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hyn a ddywedodd efe, gan arwyddo trwy ba fath farwolaeth y gogoneddai Dduw. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, dywed wrtho, Canlyn fi.