John 21:20 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y troes Petr y amgylch, ac a welawdd y discipul oedd yr Iesu yn ei garu, yn dilin, yr hwn hefyt a roesei ei bwys ar y ddwyfron ef ar swper, ac a ddywed e sei, Arglwydd, pwy ’n yw hwn ath vradycha di?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Wedi troi o hono, Petr a welodd y disgybl oedd hoff gan yr Iesu yn canlyn, yr hwn hefyd a bwysodd, ar y swpper, ar Ei ddwyfron, ac a ddywedodd, Arglwydd, pwy yw yr hwn sydd yn Dy draddodi?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac y mae Pedr yn troi yn ei ôl ac yn gweled y disgybl yr oedd yr Iesu yn ei garu yn canlyn, (hwnnw hefyd a bwysodd yn ôl ar ei fron ef ar y swper, ac a ddywedodd: “Arglwydd, pwy ydyw dy fradychwr?”)
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Phedr a drodd, ac a welodd y disgybl yr oedd yr Iesu yn ei garu, yn canlyn, (yr hwn hefyd a bwysasai ar ei ddwyfron ef ar swper, ac a ddywedasai, Pwy, Arglwydd, yw'r hwn a'th fradycha di?)
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Pedr yn troi a gweld y disgybl roedd Iesu yn ei garu yn eu dilyn nhw. (Dyma'r un oedd wedi pwyso'n ôl at Iesu yn y swper a gofyn, “Arglwydd, pwy sy'n mynd i dy fradychu di?”)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Trodd Pedr, a gwelodd y disgybl yr oedd Iesu'n ei garu yn eu canlyn yr un oedd wedi pwyso'n l ar fynwes Iesu yn ystod y swper, ac wedi gofyn iddo, "Arglwydd, pwy yw'r un sy'n mynd i'th fradychu di?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Petr wedi troi, sydd yn gweled y Dysgybl yr oedd yr Iesu yn ei garu yn canlyn; yr hwn hefyd a bwysodd yn ol yn y Swper ar ei fynwes ef, ac a ddywedodd, Arglwydd, pwy yw yr hwn sydd yn dy fradychu di?