John 21:23 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno ydd aeth y gair hwn ym‐plith y broder, na byddei varw y discipul hwnw. Ac ny ddywed e sei ’r Iesu wrthaw, Ny bydd ef varw: eithyr A’s mynnaf iðo aros y’n y ddelwyf, beth ’sy y ti?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Tydi, canlyn Fi. Gan hyny, allan yr aeth y gair hwn ymhlith y brodyr na fyddai y disgybl hwnw farw: ond wrtho ni ddywedasai’r Iesu, Ni fydd marw, eithr Os ewyllysiaf iddo ef aros hyd oni ddelwyf, pa beth yw i ti?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly aeth y gair hwn allan ymysg y brodyr, na byddai i’r disgybl hwnnw farw. Ond ni ddywedodd yr Iesu wrtho: “Ni bydd farw,” ond “Os mynnaf iddo aros oni ddelwyf, beth yw hynny i ti?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny yr aeth y gair yma allan ymhlith y brodyr, na fyddai'r disgybl hwnnw farw: ac ni ddywedasai yr Iesu wrtho na fyddai efe farw; ond, Os mynnaf iddo aros hyd oni ddelwyf, beth yw hynny i ti?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyna pam aeth y stori ar led ymhlith y credinwyr fod y disgybl hwnnw ddim yn mynd i farw. Ond dim dweud ei fod e ddim yn mynd i farw wnaeth Iesu; dim ond dweud, “Petawn i am iddo aros yn fyw nes i mi ddod yn ôl, beth ydy hynny i ti?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Aeth y gair yma ar led ymhlith ei ddilynwyr, a thybiwyd nad oedd y disgybl hwnnw i farw. Ond ni ddywedodd Iesu wrtho nad oedd i farw, ond, "Os byddaf yn dymuno iddo aros hyd nes y dof fi, beth yw hynny i ti?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y gair hwn gan hyny a aeth allan yn mhlith y Brodyr, Nid yw y Dysgybl hwnw i farw: eto ni ddywedodd yr Iesu wrtho, Nid yw efe i farw; ond, Os ewyllysiaf iddo aros hyd oni ddelwyf, beth yw hyny i ti?