John 21:25 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac y mae hefyt llawer o pethae eraill ar a wnaeth yr Iesu, yr ei pe yd yscrivennit vvynt eb‐ado‐vn, tybiet ydd wyf na ’s gallei ’r oll vyt amgyffret y llyfreu a esrrivennit. Amen.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac y mae hefyd lawer o bethau eraill a wnaeth yr Iesu, y rhai ped ysgrifenid pob un o honynt, tybiaf na wnai hyd yn oed yr holl fyd gynhwys y llyfrau a ’sgrifenid.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond y mae llawer o bethau eraill a wnaeth yr Iesu, a phed ysgrifennid y rhain bob yn un, nid wyf yn tybio y cynwysai’r byd yn grwn y llyfrau a ysgrifennid.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac y mae hefyd lawer o bethau eraill a wnaeth yr Iesu, y rhai ped ysgrifennid hwy bob yn un ac un, nid wyf yn tybied y cynhwysai'r byd y llyfrau a ysgrifennid. Amen.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwnaeth Iesu lawer o bethau eraill hefyd. Petai hanes pob un ohonyn nhw yn cael ei gadw, dw i ddim yn meddwl y byddai'r byd i gyd yn gallu dal yr holl lyfrau fyddai'n cael eu hysgrifennu!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae hefyd lawer o bethau eraill a wnaeth Iesu. Petai pob un o'r rhain yn cael ei gofnodi, ni byddai'r byd, i'm tyb i, yn ddigon mawr i ddal y llyfrau fyddai'n cael eu hysgrifennu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac y mae hefyd lawer o bethau eraill a wnaeth yr Iesu, y rhai ped ysgrifenid hwy bob yn un ac un, yr wyf yn tybied na chynwysai hyd y nod y byd ei hun y llyfrau a ysgrifenid. YN OL IOAN.