John 21:3 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Simon Petr a ddyvawt wrthynt, Mi af i pyscota. Wy the a ddywedesout wrthaw. A’ ni ne awn gyd a thi. Wy aethant ymaith, ac a escenesont i’ r llong eb oludd, a’r nos hono ny ddaliesont vvy ddim.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a dau eraill o’i ddisgyblion: wrthynt y dywedodd Shimon Petr, Af i bysgotta. Dywedasant wrtho, Deuwn ninnau hefyd gyda thi. Aethant allan, ac aethant i’r cwch; ac y nos honno ni ddaliasant ddim.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Medd Simon Pedr wrthynt: “Yr wyf yn myned i bysgota.” Meddant hwy wrtho: “Yr ydym ninnau yn dyfod gyda thi.” Aethant allan a myned i mewn i’r llong, a’r nos honno ni ddaliasant ddim.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dywedodd Simon Pedr wrthynt, Yr wyf fi yn myned i bysgota. Dywedasant wrtho, Yr ydym ninnau hefyd yn dyfod gyda thi. A hwy a aethant allan, ac a ddringasant i long yn y man: a'r nos honno ni ddaliasant ddim.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dw i'n mynd i bysgota,” meddai Simon Pedr wrth y lleill. A dyma nhw'n ateb, “Dŷn ni am ddod hefyd.” Felly dyma nhw'n mynd allan mewn cwch, ond wnaethon nhw ddal dim drwy'r nos.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dyma Simon Pedr yn dweud wrth y lleill, "Rwy'n mynd i bysgota." Atebasant ef, "Rydym ninnau'n dod gyda thi." Aethant allan, a mynd i mewn i'r cwch. Ond ni ddaliasant ddim y noson honno.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Dywed Simon Petr wrthynt, Yr wyf fi yn myned ymaith i bysgota. Y maent yn dywedyd wrtho, Yr ydym ninau hefyd yn dyfod gyd â thi. Hwy a aethant allan, ac a aethant i'r cwch, a'r nos hono ni ddaliasant ddim.