John 21:4 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yr owon wedy dyvot y boreu, y savawdd yr Iesu ar y ’lan: ny wyddiat hagen y discipulon mai y ve oeð yr Iesu.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r bore weithian wedi dyfod, safodd yr Iesu ar y traeth; er hyny ni wyddai’r disgyblion mai’r Iesu ydoedd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond â hi’n awr yn dyddio, safodd Iesu ar y lan, ond eto, ni wyddai’r disgyblion mai Iesu oedd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan ddaeth y bore weithian, safodd yr Iesu ar y lan; eithr y disgyblion ni wyddent mai yr Iesu ydoedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan oedd hi yn dechrau gwawrio dyma Iesu'n sefyll ar lan y llyn, ond doedd y disgyblion ddim yn gwybod mai Iesu oedd yno.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan ddaeth y bore, safodd Iesu ar y lan, ond nid oedd y disgyblion yn gwybod mai Iesu ydoedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan oedd y wawr weithian yn tori, yr Iesu a safodd ar y traeth: er hyny ni wyddai y Dysgyblion mai yr Iesu ydyw.