John 21:6 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y ddyvot ef wrthynt, Bwriwch allan y rhwyt y tu deheu i’r llong, a chwi a gewch. Wrth hyny y bwriesōt allan, ac nyd oedden ðim abl yw thynu, gan liaws y pyscot.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Bwriwch y rhwyd i’r tu dehau i’r cwch, a chewch. Bwriasant, gan hyny, ac ei thynu ni allent bellach, gan liaws y pysgod. Gan hyny dywedodd y disgybl hwnw yr hwn oedd hoff gan yr Iesu,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac medd yntau wrthynt: “Bwriwch y rhwyd ar ochr ddeheu’r llong, a chwi gewch.” Felly bwriasant, ac nid oedd ganddynt nerth i’w thynnu gan nifer y pysgod.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yntau a ddywedodd wrthynt, Bwriwch y rhwyd i'r tu deau i'r llong, a chwi a gewch. Hwy a fwriasant gan hynny; ac ni allent bellach ei thynnu, gan y lliaws pysgod.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dwedodd Iesu, “Taflwch y rhwyd ar ochr dde'r cwch, a byddwch yn dal rhai.” Dyma nhw'n gwneud hynny, a chafodd cymaint o bysgod eu dal nes eu bod nhw'n methu tynnu'r rhwyd yn ôl i'r cwch.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Meddai yntau wrthynt, "Bwriwch y rhwyd i'r ochr dde i'r cwch, ac fe gewch helfa." Gwnaethant felly, ac ni allent dynnu'r rhwyd i mewn gan gymaint y pysgod oedd ynddi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Bwriwch y rhwyd i'r tu deheu i'r cwch, a chwi a gewch. Hwy a fwriasant gan hyny, ac ni allent bellach ei thynu gan y lluaws pysgod.