John 21:7 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Am hyny y dyvot y discipul yr hwn oedd yr Iesu yn ei garu, wrth Petr, Yr Arglwydd yw ef. Pan glypu Simon Petr may ’r Arglwydd oedd ef, ynt ef a wregysodd ei huc (can ys ydd oedd ef yn noeth lymyn) ac y bwriodd y hun ir mor.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
wrth Petr, Yr Arglwydd yw. Shimon Petr, gan hyny, wedi clywed mai yr Arglwydd yw, a ymwregysodd a’i amwisg, (canys yr oedd efe wedi ymddiosg),
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly dywed y disgybl a garai’r Iesu wrth Bedr: “Yr Arglwydd yw.” Felly, pan glywodd Simon Pedr mai’r Arglwydd oedd, gwregysodd ei wisg uchaf amdano (canys yn ei grys yr oedd), ac ymdaflodd i’r môr,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny y disgybl hwnnw yr oedd yr Iesu yn ei garu a ddywedodd wrth Pedr, Yr Arglwydd yw. Yna Simon Pedr, pan glybu mai yr Arglwydd oedd, a wregysodd ei amwisg, (canys noeth oedd efe,) ac a'i bwriodd ei hun i'r môr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r disgybl roedd Iesu'n ei garu'n fawr yn dweud wrth Pedr, “Yr Arglwydd ydy e!” A dyma Simon Pedr yn rhwymo dilledyn am ei ganol (achos doedd ganddo ddim byd amdano), yna neidio i'r dŵr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dyma'r disgybl hwnnw yr oedd Iesu'n ei garu yn dweud wrth Pedr, "Yr Arglwydd yw." Yna, pan glywodd Simon Pedr mai'r Arglwydd ydoedd, clymodd ei wisg uchaf amdano (oherwydd yr oedd wedi tynnu ei ddillad), a neidiodd i mewn i'r mr.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Dywed gan hyny y Dysgybl hwnw yr oedd yr Iesu yn ei garu wrth Petr, Yr Arglwydd yw. Simon Petr gan hyny, pan glywodd, Yr Arglwydd yw, a wregysodd ei arwisg; canys yr oedd efe yn noeth, ac a fwriodd ei hun i'r môr.