John 21:8 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr y discipulon eraill a ddaethant mewn llong (can nad oeddent pell ywrth y tir, any d yn‐cylch dau cant cuvydd) ac a dynnesant y rhwyt a’r pyscot.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a bwriodd ei hun i’r môr: ond y disgyblion eraill, yn y cwch y daethant (canys nid oeddynt bell oddiwrth y tir, eithr oddeutu dau can cufudd) dan lusgo y rhwyd lawn o bysgod.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ond daeth y disgyblion eraill yn y llong (oherwydd nid oeddynt ymhell o’r lan, dim ond rhyw ddeucan cufydd) gan lusgo’r rhwyd o bysgod.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr y disgyblion eraill a ddaethant mewn llong (oblegid nid oeddynt bell oddi wrth dir, ond megis dau can cufydd,) dan lusgo'r rhwyd â'r pysgod.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Daeth y disgyblion eraill ar ei ôl yn y cwch, gan lusgo'r rhwyd oedd yn llawn o bysgod ar eu holau. (Doedden nhw ond ryw 90 metr o'r lan.)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth y disgyblion eraill yn y cwch, gan lusgo'r rhwyd yn llawn o bysgod; nid oeddent ymhell o'r lan, dim ond rhyw gan medr.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr y Dysgyblion eraill a ddaethant yn y cwch bychan (oblegyd nid oeddynt bell oddiwrth y tir, ond tua dau can cufydd), gan lusgo y rhwydaid o bysgod.