John 21:9 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ chygynted y daethāt ir tir, y gwelsant varwor yn, a’ physc odyn wedy ddody arno ddynr, a’ bara.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yna, pan ddaethant allan i’r tir, gwelsant dân o farwor yn gorwedd, a physgodyn yn gorwedd arno, a bara.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi dyfod i’r lan, y maent yn gweled tân glo ar y ddaear, a phryd o bysgod arno a bara.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A chyn gynted ag y daethant i dir, hwy a welent dân o farwor wedi ei osod, a physgod wedi eu dodi arno, a bara.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar y lan roedd tân golosg a physgod yn coginio arno, ac ychydig fara.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi iddynt lanio, gwelsant dn golosg wedi ei osod, a physgod arno, a bara.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Pan ddaethant gan hyny allan ar y tir, y maent yn canfod tân golosg wedi ei osod, a physgod wedi eu dodi arno, a bara.