John 3:11 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yn wir, yn wir y doedaf wrthyt, yr hynn a wyddam a ddywedwn, a’r hyn a welsam a testoliaethwn: a’n testiolaeth ny dderbyniwch.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yn wir, yn wir y dywedaf wrthyt, Yr hyn a wyddom a lefarwn; a’r hyn a welsom a dystiolaethwn; a’n tystiolaeth ni dderbyniwch.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ar fy ngwir, meddaf i ti, am yr hyn a wyddom yr ydym yn siarad, â’r hyn a welsom yr ydym yn ei dystio, a’n tystiolaeth ni nis derbyniwch.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn wir, yn wir, meddaf i ti, Mai yr hyn a wyddom yr ydym yn ei lefaru, a'r hyn a welsom yr ydym yn ei dystiolaethu; a'n tystiolaeth ni nid ydych yn ei derbyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Cred di fi, dŷn ni'n siarad am beth dŷn ni'n ei wybod, ac yn dweud am beth dŷn ni wedi ei weld, ond dych chi ddim yn ein credu ni.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthyt mai am yr hyn a wyddom yr ydym yn siarad, ac am yr hyn a welsom yr ydym yn tystiolaethu; ac eto nid ydych yn derbyn ein tystiolaeth.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yn wir, yn wir, meddaf i ti, yr hyn a wyddom yr ydym yn ei lefaru, a'r hyn yr ydym wedi ei weled yr ydym yn ei dystiolaethu; a'n tystiolaeth ni nid ydych yn ei derbyn.